amdanomni
Gwerinwyr Gwent
Fe sefydlwyd Gwerinwyr Gwent ym 1976 gan wyth o bobl o'r ardal Went oedd â diddordeb mewn adfywio traddodiad o ddawns werin Gymreig.
Rydyn ni'n gwisgo dillad sy wedi eu gwneud o wlanen traddodiadol Cymreig, o wahanol lliwiau a phatrymau, oherwydd ein bod ni'n dod at ein gilydd o bob rhan o Went, i fwynhau'r ddawns.
Rydyn ni'n perfformio ddawnsiau sy'n amrywio o ddawnsiau araf, urddasol y llys i ddawnsiau gyflym, bywiog y ffair, ac hefyd sy'n cynnwys clocsio. Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn eisteddfodau ac hefyd mewn gwyliau, yng Ngymru, a thramor. Rydyn ni hefyd wedi croesawi grwpiau o wledydd tramor i'n cartrefi ni i ddawnsio gyda ni mewn gwyliau yng Nghymru ac yn Lloegr.
Rydyn ni'n mwynhau dawnsio allan yn yr haf, ac rydyn ni'n frysur wrthi'n drefnu twmpathau a Nosweithiau Llawen.
Ym 1981, dechreuodd Gwerinwyr Gwent wyl ddawns werin Gymreig i blant - Gwyl Plant Gwent. Mae'r grwp o wyth ysgol sy wedi cymryd rhan yn wreiddiol wedi tyfu erbyn hyn i dros ugain o ysgolion. Mae dros mil o blant yn cymryd rhan yn ein gwyliau blynyddol yng nghanol Abertileri, Y Fenni, Cwmbran a Chasnewydd pob haf. Ym 1992, sefydlwyd, Gwyl Plant Cymru. Mae'r plant o bob rhan o Gymru yn dod at eu gilydd i fwynhau dawns werin Gymreig.
Mae ein grwp ni'n cyfarfod ym Massaleg, nos Iau am wyth tan ddeg.
Rydyn ni'n grwp gyfeillgar ac yn falch iawn i groesawu ddawnswyr a cherddorion newydd.
Am manylion pellach, defnyddiwch y furfflen ymholiadau
neu
cystyllwch â'r ysrifenyddes
5 Hawthorn Close,